Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig | Climate Change, Environment and Rural Affairs Committee

Ymchwiliad Bioamrywiaeth | Biodiversity Inquiry

BIO 14

Ymateb gan : Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Evidence from : Welsh Local Government Association

Rhagarweiniad

1.        Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, ac mae tri awdurdod y parciau cenedlaethol, y tri awdurdod tân ac achub a phedwar awdurdod yr heddlu’n aelodau cyswllt.  

2.        Mae’n ceisio cynrychioli awdurdodau lleol o fewn fframwaith polisi datblygol sy'n cyflawni blaenoriaethau allweddol ein haelodau ac yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau sy'n ychwanegu gwerth at Lywodraeth Leol Cymru a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

3.        Rydym yn croesawu'r cyfle i ddarparu tystiolaeth a chynnig sylwadau ar adferiad bioamrywiaeth trwy'r ‘cynllun nwyddau cyhoeddus' sydd wedi ei gynnig yn ‘Brexit a’n Tir’ Llywodraeth Cymru

Sylwadau Cyffredinol

4.         Mae CLlLC yn cytuno fod “tir Cymru’n bwysig i bawb ohonom. Mae'n cefnogi bywoliaeth pobl, yn angori cymunedau ac yn creu adnoddau naturiol hollbwysig yr ydym ni i gyd yn dibynnu arnynt”.Brexit a’n Tir

5.        Mae Llywodraeth Cymru yn ddarostyngedig i ddyletswyddau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac angen arddangos fod y 5 Ffordd o Weithio yn cael eu rhoi ar waith wrth ddatblygu a darparu’r Cynllun Nwyddau Cyhoeddus a’r Cynllun Cadernid Economaidd, sef:Hirdymor, Cydweithio, Integredig, Atal, a Chynnwys budd-ddeiliaid. Dylid defnyddio’r 5 Ffordd o Weithio wrth lygad y ffynnon er mwyn siapio’r cynllun(iau) o’r cychwyn cyntaf, yn hytrach na’u defnyddio yn hwyrach ymlaen mewn ymgais i gyfiawnhau penderfyniadau a wnaed eisoes.

6.        Roedd Brexit a’n Tir yn nodi fod tir Cymru yn medru galluogi nifer o bethau y tu hwnt i gynhyrchion economaidd; amsugno carbon, gwella ansawdd dŵr, cynyddu bioamrywiaeth, gwella iechyd y cyhoedd trwy gynnig mynediad at weithgareddau a chwaraeon awyr agored, atal llifogydd, cefnogaeth addysgol a rheoli ein treftadaeth; er enghraifft.Fodd bynnag, dylid nodi y gall ymyraethau rheoli tir gael effaith ar gynnyrch economaidd A’R amgylchedd, cynefinoedd a bioamrywiaeth. Nid yw’n fater o ‘un neu’r llall’.

7.        Gall newidiadau i dechnegau rheoli tir olygu gwelliant yn ansawdd y pridd, sydd yn gallu bod o fantais i gynhyrchedd y tir a darparu cynefinoedd gwell. Bydd angen rhoi ystyriaeth o ran sut i adnabod cyfraniad nwyddau cyhoeddus a’r budd economaidd a'r cadernid a ddaw yn eu sgil.Mae’n hanfodol fod y ddau gynllun yn cefnogi ei gilydd.

8.        Bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau fod cyllid hirdymor digonol ar gael er mwyn talu tirfeddianwyr.Mae’n parhau yn aneglur ar hyn o bryd faint o arian fydd ar gael i dalu am nwyddau cyhoeddus.

9.        Mae’n rhaid rhoi ystyriaeth o ran talu am ‘Nwyddau Cyhoeddus’; a ddylid creu graddfa symudol o daliadau am nwyddau cyhoeddus sy’n seiliedig ar leoedd sydd yn cynnig budd ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol? (gweler ystod o ddulliau gweithredu gofodol / seiliedig ar leoedd ym mharagraff 13 isod)

CWESTIWN 1: Sut y gallai Cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig Llywodraeth Cymru – y manylir arno yn Brexit a’n Tir – gael ei roi ar waith er mwyn adfer bioamrywiaeth:

10.      Ni ellir gweld y cynllun Cadernid Economaidd a’r cynllun Nwyddau Cyhoeddus fel cynlluniau ar wahân ac unigol, ond yn hytrach fel rhai sy’n cyd-fod ac yn cefnogi’i gilydd.

11.      Mae diffyg manylder ar Nwyddau Cyhoeddus o fewn Brexit a’n Tir o ran ‘sut’ y dylid adfer bioamrywiaeth.

12.      Bydd anghenion o ran bioamrywiaeth yn amrywio ledled Cymru, ond gyda’i gilydd maent yn cyfrannu at ‘lesiant economaidd’ Cymru. Er y dylai’r ddarpariaeth o nwyddau cyhoeddus ddigwydd ar lefel leol, mae angen sicrhau ei bod yn cael ei hystyried o safbwynt lleol, rhanbarthol neu genedlaethol.

13.      Mae ystod o gynlluniau gofodol lleol (Datganiadau Ardal), rhanbarthol (Cynlluniau Rheoli Dalgylch Basn Afon, Parciau Cenedlaethol) a chenedlaethol (Cynllun Gweithredu Adfer Natur, Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol). Mae’n rhaid i’r Cynllun Nwyddau Cyhoeddus sicrhau dull gweithredu cydgysylltiedig a dealltwriaeth eang o ran yr hyn sydd ei angen ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol.

CWESTIWN 2: Sut y gallai polisïau a deddfwriaeth gyfredol amrywiol Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer bioamrywiaeth gael eu rhoi ar waith wrth gynllunio a gweithredu’r cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig:

  

14.      Mae’r rhyngddibyniaethau rhwng ecosystemau a defnydd economaidd y tir yn golygu y gallai adfer bioamrywiaeth fod yn ganlyniad primaidd, yn ganlyniad eilaidd, neu hyd yn oed yn ganlyniad trydyddol i ymyraethau rheoli tir.

15.      Mae amryw bolisïau a deddfwriaethau cyfredol ar gyfer adfer bioamrywiaeth y mae’n rhaid eu nodi a’u hintegreiddio, nid er mwyn aros yn y ‘seilo’ y cawsant eu creu ynddo ond i’w hystyried fel rhan o ddull gweithredu holistaidd (gall arferion rheoli tir gwael achosi dŵr ffo priddlyd sy’n llygru afonydd a nentydd croyw; sydd yn ei dro yn gallu cael effaith negyddol ar gynefinoedd dŵr croyw yn ogystal ag ansawdd dŵr nofio arfordirol / yr amgylchedd morol.)

16.      Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn mynnu bod cyrff cyhoeddus yn ystyried cyfleoedd cydweithredol yn ystod camau cynharaf ymyriadau cynllunio.Mae angen felly i Lywodraeth Cymru nodi’r canlyniadau y maent yn gobeithio eu cyrraedd o ran bioamrywiaeth trwy’r cynllun nwyddau cyhoeddus, gan gyfeirio at bolisïau a deddfwriaeth berthnasol sy’n ymwneud â bioamrywiaeth.Dylid bod deialog wedyn gyda budd-ddeiliaid perthnasol ar y ffyrdd gorau o gyflawni’r canlyniadau hynny. Yn yr un modd, dylid annog rheolwyr tir i drafod mentrau maent yn bwriadu bwrw ymlaen â nhw gydag amrediad o gyrff cyhoeddus, i weld sut y gallai’r rhain ychwanegu gwerth.

CWESTIWN 3:Y gwersi y gellir eu dysgu o Raglen Monitro a Gwerthuso Glastir (RhMGG) er mwyn sicrhau y caiff cynlluniau i gefnogi adferiad bioamrywiaeth eu monitro a’u gwerthuso yn effeithiol. Sut ddylai’r Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig (RhMMAMG) gael ei gynllunio a’i roi ar waith yn effeithiol ar gyfer hyn?

17.       Mae gennym ddiffyg gwybodaeth fanwl i allu gwneud sylw ar effeithiolrwydd Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir. Fodd bynnag;

18.      Pa bynnag broses a ddefnyddir er mwyn modelu a monitro, bydd angen iddo sefydlu gwaelodlin o ran defnydd tir cyfredol o safbwynt amaethyddol.Gallai dull sy’n seiliedig ar System Wybodaeth Ddaearyddol helpu i gyflawni hyn, trwy ddefnyddio LIDAR, er enghraifft.

19.      Gallai adnabod cynefinoedd a gwelliant i gynefinoedd ofyn am fwy o arsylwi ‘ar lawr gwlad’, a mesur dangosyddion ansawdd pridd a dŵr uniongyrchol ac anuniongyrchol (procsi) i nodi ansawdd y cynefin.

20.      Bydd angen eglurder wrth ddiffinio'r hyn sydd yn ‘Nwyddau Cyhoeddus’ a’r hyn sydd ddim.

______________________________________________________________

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol

Rhodfa Drake

Caerdydd

CF10 4LG